Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

Mehefin 2014

 

 


Adroddiad ar yr amserlen ddiwygiedig ar gyfer ystyried y Bil Tai (Cymru)

1.    Ar 12 Tachwedd 2013, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, 21 Mawrth 2014 fel dyddiad cau i'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ystyried yr egwyddorion cyffredinol y Bil Tai (Cymru) ac adrodd arnynt.

2.    Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 23 Mai 2014, ar yr amod bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.

3.    Ar 20 Mai 2014, cytunodd y Pwyllgor Busnes i newid y dyddiad cau ar gyfer cwblhau trafodion Cyfnod 2 i 6 Mehefin 2014, yn unol â Rheol Sefydlog 26.8 er mwyn caniatáu mwy o amser i ystyried y gwelliannau i gyd.